Am y Parth Dysgu

Mae Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ffin ddramatig yn ucheldir Gogledd Cymru, gyda thirluniau darluniadol, copaon dramatig a threfi a phentrefi hanesyddol. Mae Bryniau Clwyd a’u gorchudd o rug yn gwobrwyo’r anturiaethwr gyda bryngaerau hynafol a golygfeydd anhygoel sy’n agor allan i Ddyffryn Dyfrdwy a’i dreftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol. Mae hanes y bobl a fu’n byw a gweithio yn yr ardal i’w weld yn y cyfoeth o atyniadau treftadaeth. Mae tirweddau trawiadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi denu ymwelwyr ers cannoedd o flynyddoedd.

Tyrchwch drwy ein hadnoddau dysgu cyffrous i ddarganfod mwy…

Mae’r bwndeli dysgu yma wedi cael eu llunio ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd rhwng 7 ac 11 mlwydd oed, ond mae posib’ addasu llawer ohonynt ar gyfer disgyblion iau neu hŷn ac maent yn gallu cynnig cyfleoedd i ddysgwyr o bob oed archwilio er mwyn eu hysbrydoli a’r cefnogi i ddarganfod y lle arbennig hwn.

I gael cipolwg ar yr adnoddau a sut maent yn cysylltu â’r Cwricwlwm i Gymru, cliciwch yma

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2025 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?