AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Mae Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ffin ddramatig yn ucheldir Gogledd Cymru, gyda thirluniau darluniadol, copaon dramatig a threfi a phentrefi hanesyddol.
Mae Bryniau Clwyd a’u gorchudd o rug yn gwobrwyo’r anturiaethwr gyda bryngaerau hynafol a golygfeydd anhygoel sy’n agor allan i Ddyffryn Dyfrdwy a’i dreftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol. Mae harddwch ac arwyddocâd unigryw’r tirlun eithriadol hwn yn cael eu diogelu a’u gwella fel un o ddim ond pum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru.
Rhagor o wybodaeth
Ynglŷn Prosiect Tirlun Darluniadwy
Beth yw hwn?
Cynllun partneriaeth a Ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol sy’n canolbwyntio ar Ddyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte.
Mwy am y prosiect
Darganfod mwy
Mwynhau’r AHNE
Mae sawl ffordd o ddarganfod harddwch ein tirlun. Byddwch yn dod o hyd i’r ffordd berffaith o fwynhau Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, boed drwy gerdded, dysgu am ei hanes, sylwi ar fywyd gwyllt, mynd ar y dŵr, beicio, neu dynnu ffotograffau.
gynllunio eich ymweliad
Mapio’r AHNE
Archwiliwch y wefan i ganfod ein mapiau rhyngweithiol amrywiol, gan gynnwys safleoedd ein Bryngaerau, ein safleoedd darganfod Awyr Dywyll a’n map Cynllunio defnyddiol o ffin yr AHNE.
Map Cynllunio
Cyrraedd Yma
Yn rhedeg yn agos ar hyd ffin Lloegr a Gogledd Ddwyrain Cymru, mae’n hawdd iawn cyrraedd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy o bob rhan o Brydain a thu hwnt, gan ei wneud yn gyrchfan perffaith ar gyfer diwrnod allan, gwyliau byr neu wyliau hirach.