Ymosodiad ar ddefaid 21/06/2023
Ymosodiad ar ddefaid 21/06/2023
Ar fore 21ain o Fehefin fe gafodd ceidwaid yr AHNE wybod am ymosodiad angheuol gan gi ar ddefaid ym Moel Famau. Dywedodd tyst fod 2 gi vizla, oddi ar dennyn gyda grŵp o redwyr, wedi erlid ar ôl y defaid hanner ffordd i fyny’r mynydd ac wedi ymosod ar un ohonyn nhw. Wrth gyrraedd y safle nid oedd unrhyw bobl o gwmpas ond daeth y ceidwaid o hyd i ddafad farw yn yr un lleoliad gyda chlwyfau ymosod o amgylch y gwddf. Mae hyn wedi cael ei adrodd i’r heddlu.
Rhaid i gŵn fod ar dennyn ym Moel Famau. Trwy beidio â’u cael ar dennyn rydych nid yn unig yn eu peryglu o boeni a lladd y defaid sy’n pori’r bryn ond rydych yn peryglu bywyd eich ci eich hun. Gellir mynd â chi i’r llys, eich dirwyo a chael gorchymyn difa yn erbyn eich ci. Byddwch yn berchennog ci cyfrifol a chadwch eich ci ar dennyn wrth ymweld â Moel Famau.