Bywyd Gwyllt
Y cynefinoedd sydd i’w gweld yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yw clogwyni calchfaen a phorfeydd, rhostiroedd, coedlannau a dyffrynnoedd gydag afonydd sy’n gartref i amrywiaeth o fflora a ffawna sy’n cyfrannu at gymeriad unigryw’r ardal. Mae mynd am dro neu feicio’r llwybrau mewn unrhyw ran o’r AHNE yn siŵr o roi pleser mawr i’r rheiny sy’n mwynhau edrych ar fywyd gwyllt gyda chyfle i weld anifeiliaid a phlanhigion prydferth sy’n aml yn rhai prin.
Mae porfa calchfaen yn gynefin hynod wahanol ac yn gartref i nifer o flodau gwyllt fel briallu Mairsawrus a rhosyn y graig, gan gynnwys rhai prin ac anghyffredin fel crwynllys yr hydref a thegeirian. Yn eu tro mae’r rhain yn cynnig rhywbeth i amryw o anifeiliaid di-asgwrn-cefn gan gynnwys gloÿnnod byw a gwyfynod fel y glöyn byw glas cyffredin a’r gwyfyn bwrned smotiau coch.
Mae rhostiroedd yn llefydd arbennig i adar yr ucheldir fel clochdar y cerrig, cornhedydd y coed, cudwalch yr ieir a’r cudyll bach sydd yn ymweld â’r gweundir yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf i fridio. Roedd cri’r gylfinir yn arfer bod yn sŵn cyfarwydd yn yr haf cyn iddo ddychwelyd i’r aberoedd dros y gaeaf.
Mae dyfrgwn a llygod y dŵr yn dibynnu ar ein dyfrffyrdd. Yn ffodus, mae’r dyfrgi yn dechrau adfeddiannu ei hun eto ond mae’r llygoden ddŵr yn dirywio’n sylweddol. Mae angen gweithredu rŵan i’w atal rhag diflannu yn gyfan gwbl.
Mae rhai o’r rhywogaethau sydd i’w cael yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi’i rhestru i fod dan fygythiad neu yn dirywio’r sylweddol yn genedlaethol, er enghraifft y glöyn byw brith perlog, yr ystlum trwyn pedol, grugiar ddu a llygoden y dŵr. Mae’r mamaliaid ar y rhestr yn cynnwys yr ysgyfarnog frown, pathew, dyfrgi a rhywogaethau eraill o ystlumod tra bod adar mewn perygl yn cynnwys cornicyll a’r penfelyn. Hefyd mae pryder am rai amffibiaid, ymlusgiaid ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn, yn ogystal â nifer o blanhigion gwyllt yn cynnwys crud, ffwngi a chen.
Mae’n bwysig ein bod yn gwneud ein rhan ni i amddiffyn y blaned a hyd yn oed fel unigolion mae gweithredu yn lleol yn gallu cael effaith fawr ar oroesiad rhywogaethau sydd mewn perygl. Dewch i weld ein bywyd gwyllt, ond hefyd ystyriwch gymryd mantais o rai o’r cyfleoedd gwirfoddoli i gymryd rhan mewn gofalu amdanyn nhw tra ei bod hi’n bosib. Os na allwch ymuno â ni yn ein digwyddiadau ond bod cynnal ein bywyd gwyllt cyfoethog yn bwysig i chi beth am roi cyfraniad ariannol tuag at ein prosiectau fel ein bod yn gwneud mwy ac yn gwella ein hadnoddau.