Warchodfa Natur Wenffrwd
Gallwch archwilio’r safle hwn a agorwyd yn ddiweddar drwy ddilyn y llwybr hanner milltir. Mae’n ymdroelli drwy amrywiaeth o gynefinoedd ac yn rhoi golygfeydd hardd ar draws afon Dyfrdwy cyn dychwelyd i ochr arall y maes parcio.
Mae’r twmpath hwn o dir yma o ganlyniad i sawl degawd o adael gwastraff cartref, masnachol a diwydiannol o ardal Llangollen yma ar domen wastraff. Roedd hyd at 75,000 o dunelli o wastraff yn cael ei adael bob blwyddyn tan iddynt stopio derbyn sbwriel yn yr 1980au, er bod yr orsaf drosglwyddo ar gael i’r boblogaeth leol tan 2008.
Mae natur wedi gwneud gwaith gwych o adfer y safle. Mae’r ddôl blodau gwyllt yn darparu bwyd i beillwyr a’r morgrug melyn sydd yn creu’r twmpathau morgrug y gallwch eu gweld. Mae’r mieri trwchus yn cynnig ardal ddiogel i adar a mamaliaid, yn ogystal â mwyar duon blasus (mae croeso i chi gymryd eich siâr ohonynt).
Plannwyd y coetir ffawydd a phîn ar ran hŷn o’r safle tirlenwi oddeutu 40 mlynedd yn ôl. Mae llawer o’r coed ar y safle yn edrych fel petaent wedi eu difrodi, ond mae hyn yn darparu cyfleoedd clwydo ardderchog i ystlumod a chartref i wenyn unig.
Eleni byddwn yn parhau i weithio ar greu cysylltiadau o’r safle hwn at Gamlas Llangollen ac yn ôl i Langollen. Byddwn hefyd yn ychwanegu amrywiaeth i’r safle drwy blannu coed a chreu ardaloedd blodau gwyllt newydd. Bydd arolygon yn cael eu cwblhau er mwyn adeiladu ar ein dealltwriaeth o’r bywyd gwyllt sy’n defnyddio’r tir hwn. Os hoffech fod yn rhan o’r gweithgareddau hyn, neu os oes gennych awgrymiadau eraill am y safle, cysylltwch â ni ar:
Perthnasol
Y Bws Darluniadwy
Our Picturesque Landscape
Gwasanaeth bws newydd yn Nyffryn Dyfrdwy i ddarparu mynediad at rai o gyrchfannau allweddol y dirwedd hardd a hanesyddol hon.
Crynodeb o'r Prosiect: Mynediad
Our Picturesque Landscape
Crynodeb o'n Prosiect Tirwedd Pictiwrésg: Mynediad
Our Picturesque Landscape
Our Picturesque Landscape Project is funded by the National Lottery Heritage Fund