Crynodeb o’r Prosiect: Cadwraeth

Crynodeb o’r Prosiect: Cadwraeth

  • Volunteers weeding out Himalayan Balsam
    Volunteers weeding out Himalayan Balsam
  • Volunteers restoring a dry stone wall
    Volunteers restoring a dry stone wall
  • Stepping stones to Pen y Pigyn Wood
    Cerrig sarn Pen y Pigyn - Pen y Pigyn stepping stones

Cadw’r Darluniadwy

Adfer yr Olygfa

Mae Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy wedi ymgymryd â chynllun ar waith i reoli coetiroedd cynaliadwy er mwyn datgelu rhywfaint o’r prif olygfeydd o Ddyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd yn ofalus. Bydd y gwaith tocio yn sicrhau bod yna gymysgedd o rywogaethau brodorol a choed o oedrannau gwahanol er budd bywyd gwyllt, coed a phlanhigion y coetir. Mae hyn yn rhan o raglen ehangach i ddatgelu golygfeydd allweddol Safle Treftadaeth y Byd ac i annog bioamrywiaeth, yn arbennig ger Pontcysyllte, y Waun a Rhaeadr y Bedol.

Efallai i chi sylwi ar ein golygfannau sydd wedi’u hadfer mewn lleoliadau megis Maes Parcio Stryd y Craen, golygfeydd o Draphont Ddŵr Pontcysyllte a Phen Y Pigyn.

Rheoli’r Tirlun

Bydd y prosiect hefyd yn ceisio dod o hyd i atebion dyfeisgar i leihau problemau tagfeydd, mynediad ac erydiad yn rhai o’n safleoedd mwyaf bregus.

Mae un ar ddeg o brosiectau o fewn thema cadw’r darluniadwy, sy’n cynnwys rheoli rhai o’r rhywogaethau goresgynnol sydd wedi dechrau meddiannu’r tirlun, a hefyd adfer llwybrau bywyd gwyllt sy’n galluogi’r fflora a’r ffawna i ffynnu.

Oeddech chi’n gwybod?

Yn ystod y prosiect, treuliwyd 1733 o oriau ar waith cadwraeth!

Safleoedd a Gwasanaethau Newydd

Warchodfa Natur Wenffrwd

Gallwch archwilio’r safle hwn a agorwyd yn ddiweddar drwy ddilyn y llwybr hanner milltir. Mae’n ymdroelli drwy amrywiaeth o gynefinoedd ac yn rhoi golygfeydd hardd ar draws afon Dyfrdwy cyn dychwelyd i ochr arall y maes parcio.

Cwt y Fforddolwyr

Mae Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy wedi adfer hen Gaban y Fforddolwyr ger Rhaeadr y Bedol a arferai gael ei ddefnyddio fel storfa a lloches gan weithwyr oedd yn cael eu cyflogi ar Gamlas Llangollen. Roedd cabanau neu hofelau fel y rhain yn lloches i’w groesawu i’r Fforddolwyr oedd yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar hyd darn o’r gamlas, am tua 3 milltir fel arfer. Mae’r adeilad hanesyddol wedi cael ei osod fel petai’r Fforddoliwr newydd alw draw am y diwrnod i weithio a bydd yn dychwelyd yn fuan.

Bydd yr adeilad ar agor i’r cyhoedd yn rheolaidd gan grŵp o wirfoddolwyr a staff AHNE, cadwch lygad ar ein tudalen digwyddiadau i weld pryd fydd ein diwrnod agored nesaf yn cael ei gynnal.

Y Bws Darluniadwy

Mae gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn daith gylchdro sydd ar gael bob dydd Sadwrn tan ddiwedd mis Hydref 2022. Bydd y gwasanaeth yn cysylltu Llangollen a’r pentrefi cyfagos gydag atyniadau poblogaidd fel Dyfrbont Pontcysyllte, Gwarchodfa Natur Wenffrwd, Rhaeadr y Bedol, Abaty Glyn y Groes, Plas Newydd a Bwlch yr Oernant.

Cynllun Grantiau Cefn Gwlad

Mae’r Cynllun Grant Cefn Gwlad yn fenter a gefnogir gan brosiect Ein Tirlun Darluniadwy er mwyn helpu i ariannu prosiectau lleol sy’n ceisio gwarchod yn ogystal â gwella ardal y prosiect. Gallai prosiectau lleol sy’n cynnwys adfer perthi a phyllau, plannu coed, rheoli coetir neu rostir, neu wella gwlyptir hynafol fanteisio ar y gronfa. Gallwch ddarganfod mwy drwy fynd i’n tudalen grantiau.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?