Ein Prosiectau
Mae tîm yr AHNE, ei bartneriaid a’n gwirfoddolwyr yn rhan o waith cyflawni ystod eang o brosiectau. Mae’r rhain yn amrywio o brosiectau safle-benodol sy’n gysylltiedig â rhywogaeth, nodwedd neu gymuned benodol, i brosiectau tirwedd sy’n gysylltiedig â threftadaeth, y celfyddydau a diwylliant; neu amddiffyn a gwella cynefin neu rywogaeth benodol.
Mae’r gwaith hwn yn hanfodol ar gyfer goroesiad rhai o’n rhywogaethau cynhenid. Anifeiliaid, planhigion, ffyngau a bacteria – mae gan bob rhywogaeth ran bwysig i’w chwarae yn yr ecosystem. Yn aml, gall rheoli un rhywogaeth fod yn fuddiol i eraill sy’n rhannu’r cynefin hwnnw.
Mae’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr AHNE wrth wraidd llawer o’n prosiectau. O ddarparu cyfleoedd i bobl wella iechyd corfforol a lles meddyliol i gefnogi cymunedau cyfan trwy ddigwyddiadau a chyfleoedd cyllido.
Mae yna nifer o ffyrdd i ymgysylltu â ni a chymryd rhan yn ein gwaith, neu ddarganfod mwy am ein prosiectau cyfredol a blaenorol.