Ein Cymunedau
Ein Cymunedau. Ein Pobl. Dyma sy’n rhoi awyrgylch unigryw i’r ardal. Mae cenedlaethau o bobl sy’n byw ac yn gweithio o fewn yr AHNE wedi adeiladu ei ddiwylliant a threftadaeth, yn ogystal â ffurfio’r tirlun y mae cymaint o bobl yn dod i fwynhau.
Ac maent yn parhau i siapio’r AHNE heddiw. Mae gan bob tref a phentref eu personoliaeth eu hunain a hanes unigryw i’w adrodd. Mae ganddynt oll gymunedau bywiog a chyffrous sy’n aros i gael eu darganfod.
Oeddech chi’n gwybod?
Mae pedwar priffordd yn cwrdd yn Llangollen. Yr Afon Dyfrdwy, Camlas Llangollen, y rheilffordd stêm, a ffordd gerbydau Thomas Telford sef yr A5.
Mae helpu pobl i fod yn ymwybodol o’r ffordd maent yn cyfrannu at hanes Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, i ailgysylltu â’i gorffennol yn rhan bwysig o’r hyn a wnawn. Rydym wedi gweithio gyda rhai cymunedau a oedd eisiau ysgrifennu hanesion eu hunain; cynnal ymchwil; chwilota drwy’r archifau, casglu hen luniau ac atgofion. Canlyniad hyn yw cyfres o lyfrynnau am fywyd cymunedol yn un o dirluniau mwyaf gwerthfawr Prydain.