Llygredd Golau
Llygredd Golau – Sut allch chi helpu?
Gall gormod o oleuadau, neu oleuadau anaddas effeithio’n ddifrifol ar bobl a’r amgylchedd. Mae llygredd golau yn derm cyffredin sy’n cyfeirio at olau artiffisial sy’n disgleirio pan nad oes ei eisiau na’i angen.
Gall olygu:
• Amharu ar batrwm cysgu oherwydd fod golau’n treiddio i mewn i gartrefi. Fel bodau dynol rydym yn dilyn rhythm circadaidd (ein cloc biolegol sy’n cael ei reoli gan y gylchred dydd-nos). Gall gormod o olau artiffisial yn ystod y nos darfu ar y gylchred honno gan ei gwneud yn anodd inni gysgu’n dda.
• Amharu ar iechyd meddwl a lles trigolion.
• Biliau ynni uwch a chynyddu allyriant o CO2.
• Effeithiau niweidiol ar fywyd gwyllt trwy amharu ar lwybrau mudo ac arferion paru gan arwain at ostyngiad mewn niferoedd. Gall golau artiffisial achosi i adar sy’n mudo neu hela yn y nos golli’u ffordd, neu fudo’n rhy gynnar neu’n rhy hwyr, a cholli’r amgylchiadau delfrydol i nythu a fforio.
Oeddech chi’n gwybod?
Nid oes tystiolaeth wyddonol bendant bod mwy o olau y tu allan yn rhwystro troseddu. Efallai ei fod yn gwneud inni deimlo’n fwy diogel, ond nid oes prawf ei fod yn ein gwneud yn fwy diogel.
Dydi hyn ddim yn golygu ein bod am ichi ddiffodd pob golau! Y cyfan yr ydym yn ei annog yw:
• Newid i fylbiau ynni isel (50w ac is)
• Defnyddiwch oleuadau LED gwyn llai llachar (chwiliwch am 3000 Kelvin neu is na hynny)
• Diffoddwch unrhyw oleuadau diangen
• Defnyddiwch oleuadau allanol sy’n ymateb i symudiad (“motion sensors”)
• Gosodwch orchudd dros oleuadau allanol a’u troi at i lawr rhag i’r golau ymledu i’r awyr uwchben
• Ystyriwch ddefnyddio bylbiau watedd isel mewn goleuadau allanol