Treftadaeth
Mae harddwch a chymeriad syfrdanol AHNE Bryniau Clwyd ac Dyffryn Dyfrdwy yn fwy na chanlyniad harddwch natur. Yr hyn a welwn o’n cwmpas yw cynnyrch miloedd o flynyddoedd o ddylanwad dynol; cenedlaethau sydd wedi meddiannu a gweithio’r tir.
Mae ffermio, mwyngloddio am fwynau neu gerrig, adeiladu aneddiadau, cestyll ac addoldai i gyd wedi siapio tirweddau cyfarwydd heddiw, gan gyfrannu at gyfoeth diwylliannol a chymeriad lleol unigryw.
Mae ein treftadaeth nid yn unig i’w chael mewn amgueddfeydd, ond mae’n parhau i fod yn rhan o’r dirwedd, i’w gweld mewn eglwysi a chaerau, adfeilion a henebion a hefyd yn y mynyddoedd, y caeau a’r cymoedd sy’n aros i gael eu darganfod.
Weithiau mae’r profiad yn ysblennydd – sefyll ar ragfuriau bryngaer o Oes yr Haearn neu’n croesi’r gamlas fordwyol uchaf yn y byd yn Nhraphont Ddŵr Pontcysyllte. Ar adegau eraill, gall atgofion tawel o’r gorffennol basio heb i neb sylwi – wal gerrig sych sydd wedi sefyll ers dwy ganrif, hen odynau calch neu dai injan a welir trwy lystyfiant.
Bob dydd, mae’r atgofion hyn o’r gorffennol yn ein cysylltu â’r cymunedau sy’n dal i fyw ac yn gweithio yn yr AHNE, gan fynd o gwmpas eu busnes yn union fel y maent wedi’i wneud ers milenia.
Oeddech chi’n gwybod?
Wrth gerdded drwy tanffordd cerddwyr gorsaf y Berwyn byddwch yn gweld gweddillion graffiti a adawyd gan filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf ar eu ffordd i’r ffrynt.
Grwpiau a Chymdeithasau Cysylltiedig
Darllen Mwy
Edrych yn ôl
Anfielders “Wayfarer” a WP Cook yn dringo Nant Rhydwilym
Goresgyniad amodau gaeafol un o'r pasiau mwyaf heriol a hardd yng Nghymru, ym Mynyddoedd Berwyn. O erthygl dyddiedig 8 Mai, 1919.