Gwelliannau Loggerheads

Gwelliannau Loggerheads

Bydd gwaith yn dechrau ddydd Llun 19 Awst ym Mharc Gwledig Loggerheads i wneud atgyweiriadau hanfodol i wal a phont afon fel rhan o gynllun uwchraddio a ariennir gan Lywodraeth y DU. Bydd holl gyfleusterau’r parc gwledig ar agor fel arfer, er y gallai fod rhywfaint o darfu o ran mynediad a pharcio. Bydd arwyddion ar y safle i gyfeirio ymwelwyr, ynghyd â Thîm y Ceidwaid i gynnig cyngor. Mae disgwyl i’r gwaith bara tua chwech i wyth wythnos.

Un o’r newidiadau mwyaf dramatig i’r safle fydd cael gwared ar ran o’r gwrych yw, er mwyn galluogi mynediad diogel i wal yr afon. Mae’r gwrych mewn mannau yn rhan o’r broblem, gan fod gwreiddiau wedi mynd yn sownd yn y muriau ac achosi ardaloedd o ymsuddiant sylweddol a thandorri ar y glannau. Bydd y rhan a dynnwyd yn cael ei ail-blannu gan wrychoedd ywen sefydledig unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?