Grid Cenedlaethol yn derbyn AHNE gwobr
Grid Cenedlaethol yn derbyn AHNE gwobr
Mae’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn rhoi gwobr bob blwyddyn i gymuned, unigolyn neu fusnes sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i dirwedd yr AHNE ac yr oedd yr AHNE wrth eu bodd bod y wobr eleni yn cydnabod gwaith y Grid Cenedlaethol am eu cefnogaeth i’r prosiect ‘Tirweddau Coll’, sydd wedi’i ariannu drwy eu cynllun Menter Gwella Tirwedd, sydd wedi helpu i adfer rhai o nodweddion allweddol yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Eglurodd Swyddog Prosiect yr AHNE, Ruth Calcraft, fod y prosiect, a ddechreuodd ym mis Mawrth 2018, wedi cryfhau cymeriad gweledol y dirwedd trwy adfer a phlannu perthi, adfywio hen byllau, ailadeiladu waliau cerrig sychion, cael gwared â phrysgwydd a phlannu coetir.
Mae’r prosiect hefyd wedi cefnogi cynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt yn cynnwys helpu blodau gwyllt i ffynnu ar warchodfeydd natur ar ymylon ffyrdd a rheoli rhostir grug er budd rhywogaethau prin fel y rugiar ddu. Yn ogystal â hyn, cwblhawyd gwaith yn ymwneud â mynediad i helpu ymwelwyr i fwynhau’r ardal yn cynnwys gwaith i wella golygfeydd o’r llwybr Clawdd Offa uwchben Tremeirchion a gosod gatiau newydd yn lle camfeydd ar ddau lwybr troed.
Yn dilyn y cyflwyniad y cafodd ei gynnal yn Siop a Chaffi Cymunedol Llandegla (sydd oddi ar y Llwybr Clawdd Offa ac yn gyfle i gerddwyr gael seibiant), cwblhawyd ymweliad safle â
Pharc a Gardd Hanesyddol Plas yn iâl, tirnod allweddol yn Nyffryn Morwynion lle bu Huw a Bethan Beech yn arddangos peth o’r gwaith yr oedd wedi’i gwblhau drwy’r prosiect yn cynnwys ffensys parcdir newydd, plygu perthi, cael gwared â rhododendron estron goresgynnol, trin coed mewn modd arbenigol er mwyn helpu i ymestyn oes coed hynafol dewisol a phlannu coed derw mewn parcdir.
Dywedodd Swyddog yr AHNE, Howard Sutcliffe “O Gaer Drewyn, Corwen i’r Mwynglawdd, a chalon Dyffryn Morwynion, mae’r gwaith sydd wedi’i wneud ar brosiect y Tirweddau Coll â chefnogaeth y Fenter Gwella Tirwedd eisoes wedi dechrau cael effaith gadarnhaol sylweddol yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Michelle Clark o’r Grid Cenedlaethol: “Mae cydweithio â budd-ddeiliaid yn hanfodol i’n ffordd ni o weithio yn y Grid Cenedlaethol. Mae’r ymgysylltu cynnar effeithiol a chydweithio â budd-ddeiliaid sydd wedi’u hyrwyddo gan brosiectau’r Ddarpariaeth Effaith Weledol, y mae’r Fenter Gwella Tirwedd yn rhan ohonynt, wedi helpu i wneud cyfraniad cadarnhaol at wella harddwch naturiol, bioamrywiaeth a threftadaeth ddiwylliannol rhai o’n tirweddau mwyaf gwerthfawr. Rydym ni yn awr yn ceisio rhoi’r gwersi a ddysgwyd o’r dull o gydweithio yr ydym ni wedi’i ddefnyddio drwy’r prosiectau hyn yn ehangach ar draws ein busnes.”
Dywedodd Cadeirydd Cyd-bwyllgor yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Cynghorydd Sir y Fflint, Dave Hughes ei bod wedi bod yn wych gweld yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a phartneriaid y prosiect, gwirfoddolwyr a pherchnogion tir i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i helpu i ddiogelu cymeriad y tirweddau ysblennydd a gwerthfawr hyn am genedlaethau i ddod.”
Dywedodd Cynghorydd Sir Ddinbych ac Aelod Cyd-bwyllgor AHNE, y Cynghorydd Emrys Wynne: “Mae’r Prosiect Tirweddau Coll sydd wedi’i gefnogi gan gynllun Menter Gwella Tirwedd wedi bod yn wych wrth ysbrydoli pobl a pherchnogion tir i ailafael yn y mater i helpu gydag adfer a gwella ardaloedd hardd o amgylch ein cymunedau ni. Mae wedi bod yn galonogol clywed am y gwaith gwych hwn i warchod a chefnogi ein tirweddau yn y dyfodol.
Dywedodd Chris Baines, Cadeirydd Grŵp Cynghori Budd-ddeiliaid Darpariaeth Effaith Weledol “Un o ganlyniadau mwyaf cyffrous y Fenter Gwella Tirwedd fu’r ffordd y mae wedi ysbrydoli pobl leol i gymryd rhan a dylid rhoi clod enfawr i’r ffermwyr a’r perchnogion tir hynny sy’n byw yn y dirwedd hon sy’n annwyl iawn iddynt. Mae gweithredu ar y cyd gan y rhai sy’n gwybod ac sy’n deall tirwedd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn golygu ein bod ni bellach yn gweld gwelliannau ar raddfa tirwedd gwirioneddol. Mae’n galonogol gweld llwyddiant cymunedau yn dod at ei gilydd i achosi newid mawr. Mae’r prosiect Darpariaeth Effaith Weledol y mae Menter Gwella Tirwedd yn rhan ohono wedi bod yn drawsnewidiol, rhywbeth a gydnabuwyd y mis diwethaf mewn llythyr personol gan Syr David Attenborough a oedd yn canmol ein gwaith ni o ran titw’r helyg yn nwyrain y Peak District.”
Partneriaid: Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr RSPB, Gogledd Cymru.
Ymddiriedolaeth Natur a Grŵp Cynghori ar Ffermio, Coedwigaeth a Bywyd Gwyllt
Mae’r Grŵp Cynghori ar Ffermio, Coedwigaeth a Bywyd Gwyllt ynghyd â pherchnogion tir lleol i gyd yn helpu i gymryd rhan hanfodol yn y prosiect.
Oeddech chi’n gwybod?
cyfanswm gwerth cyffredinol yr holl gynlluniau gyda’i gilydd yw dros filiwn o bunnoedd