Prosiect Cymunedau Gwyrdd
Caiff prosiect Cymunedau Gwyrdd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ble mae cronfa o arian wedi ei ddyrannu i wella mannau gwyrdd o few nein cymunedau gwledig, nod y prosiect yw dod a phobl a natur ynghyd, er buddy yr amgylchedd a chymunedau. Mae’r prosiect hwn yn galluogi cymunedau i drawsnewid eu hardal leol i fod yn lle mwy dymunol i fyw, gweithio a chwarae ynddo, tra hefyd yn cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli yn ogystal a chaniatau bywyd gwyllt i ffynu.
Rydym yn chwilio am nifer o gymunedau gyda phrosiectau i gynyddu bioamrywiaeth ofewn eu hamgylchedd leol ac i drigolion lleol all elwa o fannau gwyrdd yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae hyd at £30,000 ar gael i gymunedau gwledig yn Sir Ddinbych, Conwy, Fflint a Wrecsam. Caiff y prosiectau eu dewis trwy broses galwad agored, nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau a bydd y rhaglen ar agor ac yn rhedeg hyd nes bydd y gronfa o £1.3 miliwn wedi ei ddyrannu.
Enghreifftiau o brosiectau cymwys:
- Gerddi cymunedol, rhandiroedd a pherllannau, coedlannau, mynwentydd, afonydd a phyllau lleol
- Ardaloedd bywyd gwyllt a gwarchodfeydd natur
- Milltiroedd cymunedol i gysylltu cymunedau a thrafnidiaeth werdd gan gynnwys rhwydweithiau beicio a mannau gwefru
- Llwybrau cerdded, trofeydd trefol a chylchdeithiau o amgylch pentrefi
Gall unrhyw gymuned sydd a syniad am brosiect o fewn Sir Ddinbych a’r AHNE ddatgan diddordeb drwy gysylltu a Gwenno Jones – Swyddog Prosiect am fwy o wybodaeth neu sgwrs. Edrychwn ymlaen i glywed gennych!
gwenno.jones@sirddinbych.gov.uk
07768751430 / 01824712792
Oeddech chi’n gwybod?
Cefnogi gwelliannau i ble mae bobl yn byw, gweithio a chwarae ynddynt, drwy ffocysu ar adferiad ôl-covid a thwf gwyrdd ar lefel cymunedol
Caiff prosiect Cymunedau Gwyrdd ei ariannu dwy gronfa Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) Llywodraeth Cymru. Golygai hyn ei fod yn ofynnol i’r prosiectau/mentrau integreiddio egwyddorion Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol (SMNR) i fewn i weithgareddau ac isadeiledd cymunedol.