Tystiolaeth o Gymunedau
Ar hyd a lled Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fe welwch chi olion anheddau a gweithgarwch dynol sy’n dyddio’n ôl i o leiaf 30,000 CC.
Fe geir ogofau rhyfeddol yn y calchfaen rhwng Graianrhyd a Llandegla sydd ag olion Neolithig, ac ar grib Mynydd Llantysilio ceir tystiolaeth dros ardal eang o anheddiad cynhanesyddol gan gynnwys henebion fel bryngaer Moel y Gaer. Caer arall o bwysigrwydd cenedlaethol ydi Caer Drewyn yn Nyffryn y Morwynion ger Corwen.
Ar dir uchel Cyrn-y-Brain a Mynydd Rhiwabon fe gewch hyd i garneddau hynafol a meini hir, ac ar Fynydd y Drenewydd cewch glwstwr o henebion claddu cynhanesyddol. Mae’r gadwyn hefyd yn cynnwys nifer o henebion claddu o’r Oes Efydd, sy’n dyddio’n ôl i oddeutu 2,000 i 800 CC. Mae’n bosib bod pobl yr Oes Efydd hefyd wedi defnyddio’r gadwyn yma o fryngaerau, fel yr awgrymir gan ddarganfyddiad casgliad o fwyelli o’r Oes Efydd ar Foel Arthur a gweithgarwch tebyg yn ymyl ar Foel y Gaer, Rhosesmor.
Y bryngaerau Oes Haearn sy’n coroni Bryniau Clwyd ydi nodweddion archeolegol amlycaf ac enwocaf yr ardal. Yn dyddio’n ôl i oddeutu 800 CC a 43 OC, mae’r caerau yn amrywio o ran maint – o fawredd Penycloddiau i fychander Moel Arthur. A, hyd heddiw, maen nhw’n dal yn ymgodi uwchlaw’r ardal.
Mae llawer o batrymau’r pentrefi a’r ffermydd a welwch chi heddiw yn dyddio’n ôl i’r oesoedd canol. Mae yna eglwysi canoloesol mewn sawl pentref yn yr AHNE. Codwyd cestyll Dinbych a Rhuthun yn oes Edward I ac roedd rhannau mawr o Fryniau Clwyd yn dal ym meddiant stad Castell Rhuthun tan ganol y 19eg ganrif.
Mae coetiroedd hynafol a phatrymau amgáu caeau afreolaidd ac organig i’w gweld yn Nyffryn y Morwynion o hyd. Ar lethrau dwyreiniol Mynydd Rhiwabon mae’r patrymau caeau canoloesol yn dal yn gyflawn. Ac ers canrifoedd bellach mae defaid wedi bod yn pori rhostir grug agored Mynydd Llantysilio.
Oherwydd pwysigrwydd dŵr ar gyfer byw, diwydiant a chludiant, mae afonydd yr AHNE wedi arwain at dwf sawl un o’n trefi hynafol, lle mae pobl hyd heddiw yn mynd yno i siopa a chymdeithasu – yn union fel y byddan nhw wedi’i wneud miloedd o flynyddoedd yn ôl. Wrth i gludiant ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ddechrau newid, cafodd y rhwydwaith o draciau a threnau eu disodli gan ffyrdd a cherbydau modur. Roedd yna reilffordd yn croesi’r tir i’r gogledd.
Mae gan Ddyffryn Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy grynodiad rhyfeddol o nodweddion tirwedd hanesyddol, y gorau yn y wlad o bosib. Mae’r rhain yn cynnwys henebion hynafol fel Castell Dinas Brân ac Abaty Glyn y Groes, Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg.
Mae Castell y Waun, castell cenedlaethol pwysig sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn dal yn tremio dros y gororau ac yn borth i Ddyffryn Llangollen.
Beth am roi cynnig ar ein llwybrau cerdded a beicio drwy’r AHNE i ddarganfod mwy o’n treftadaeth werthfawr.