Coed Nercwys
Mae Coed Nercwys yn safle Cyfoeth Nautriol Cymru sydd wedi’i leoli 3 milltir o’r Wyddgrug ar ochr ddwyreiniol yr AHNE. Cafodd ei blannu ym 1965 gyda chymysgedd o binwydd polion, sbriws Sitka, ffinydwydd lwydlas a larwydd. Mae’r safle yn eithaf bychan ond mae’r amrywiaeth o goed, ardaloedd llwyrgwympo, pyllau a phlanhigion yn ei wneud yn leoliad ardderchog i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt. Mae’r safle yn ein hatgoffa o’r ffordd mae’r rhan hon o Fynydd Nercwys wedi newid dros y blynyddoedd, o amser pan oedd rhostir agored gyda ffermydd a gwaith mwyngloddio.
0 Sylwadau