Cludo Cymunedol
Cludo Cymunedol
Mae gan Dirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gyllid i gynorthwyo grwpiau, na fyddai fel arall yn gallu ymweld â chefn gwlad ar eu stepen drws. Gall hyn fod yn daith i grwydro Moel Famau, Loggerheads neu Barc Gwledig Tŷ Mawr. Gall fod yn ymweliad i Fwlch yr Oernant, mynd am dro o amgylch Corwen neu ar hyd Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa. Gall fod yn ymweliad i un o’n safleoedd hanesyddol gwych ar hyd a lled y Dirwedd Cenedlaethol.
Gallwn gynnig 50% o gostau llogi cerbyd neu gludiant cyhoeddus hyd at uchafswm o £250.
Pwy all wneud cais am gyllid?
Mae’r cyllid ar gael i unrhyw grwpiau ffurfiol nad ydynt yn berchen ar eu cludiant eu hunain – gall hyn fod yn glwb, grŵp cymunedol, ysgol ac ati… Yr unig beth sydd ei angen ar y grŵp, yw dyhead i ymweld â’r Dirwedd Cenedlaethol.
- Rhaid i grwpiau neu unigolion fod wedi’u lleoli yng Nghymru.
- Dim ond teithiau sydd o fewn y Dirwedd Cenedlaethol yn gyfan gwbl y gellir eu hariannu.
- Ni allwn ariannu teithiau neu ddigwyddiadau sydd eisoes wedi cael eu cynnwys mewn rhaglen o ddigwyddiadau.
Sut mae gwneud cais ar gyfer cyllid Cludiant Cymunedol?
Os hoffech fwy o wybodaeth, os oes gennych unrhyw gwestiynau am gymhwysedd eich grŵp i gael arian, neu os hoffech wneud cais, ffoniwch Ceri Lloyd ar 01824 712757 neu anfonwch e-bost at ceri.lloyd@denbighshire.gov.uk
Bydd y penderfyniad i gynnig cyllid ai peidio yn cael ei wneud gan y Dirwedd Cenedlaethol. Mae’r arian yn gyfyngedig a bydd teithiau cymwys yn derbyn cyllid ar sail cyntaf i’r felin.