Ceffylau Gwaith yn Loggerheads
Ceffylau Gwaith yn Loggerheads
Bydd yr arfer traddodiadol o ddefnyddio ceffylau gwaith i lusgo coed yn cael ei arddangos ym Mharc Gwledig Loggerheads ddydd Iau, 24 Awst. Bydd Kevin Taylor o Shire X Horse Logging yn dod â’r Cob Sipsi 15 oed – Bill i symud coed. Mae Kev wedi bod yn gweithio gyda Bill ers 11 mlynedd ac mae’r ddau yn agos iawn.
Mae defnyddio ceffylau yn ffordd effeithlon i symud y coed yn arbennig ble nad yw’n bosibl cael mynediad gyda cherbyd. Cafodd y coed eu torri fel rhan o’r gwaith i ddiogelu coed ac atal clefyd coed ynn. Bydd rhywfaint o’r coed yn cael ei troi’n feinciau i’w defnyddio o amgylch y parc.
Rhag gorlwytho gwybodaeth, i unrhyw un â diddordeb yn Kev – cwblhaodd brentisiaeth 3 blynedd gyda Thorwyr Coed gyda Cheffylau Prydeinig ar ôl gyrfa fel technegydd yn yr RAF am 22 mlynedd.