Camerâu hen ffasiwn
Camerâu hen ffasiwn
Camerâu hen ffasiwn wedi eu gosod i ddal y tirweddau newidiol drwy eich camera
Mae tri chamera ‘pwynt sefydlog’ o fath hen ffasiwn wedi’u gosod ar hyd a lled Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fel rhan o brosiect gwyddoniaeth dinesydd i gofnodi’r dirwedd sy’n newid. Gyda chamerâu ar safle Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Parc Gwledig Loggerheads a’r hen lein reilffordd o Brestatyn i Ddyserth, mae camerâu sy’n hygyrch i bawb yn rhai o’n lleoliadau mwyaf prydferth.
Mae’r prosiect yn gofyn i aelodau o’r cyhoedd i dynnu llun drwy’r camerâu hyn a’i uwchlwytho i Instagram gan ddefnyddio #CRDV_AONB i dagio eu llun i’r prosiect. Drwy wneud hynny fe fydd y lluniau yn ychwanegu at set ddata o luniau sy’n cyfleu’r newid o ran y tymhorau, rheoli tir a’r newidiadau o ran yr hinsawdd yn y dirwedd drawiadol hon.
Mae Howard Sutcliffe, y Swyddog AHNE a Chadeirydd y Gymdeithas Rheoli Cefn Gwlad yng Nghymru, wedi aros yn hir am brosiect ffotograffiaeth pwynt sefydlog yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gyda chyllid ‘Tirweddau Arbennig a Mannau Arbennig’ gan Lywodraeth Cymru roedd y syniad hwn o’r diwedd yn gallu cael ei droi’n realiti.
Gan weithio’n agos gyda gof ac artist gwaith metel lleol, Rich Jones o Heat and Beat, fe luniodd Tom Johnstone, Swyddog Newid Hinsawdd i’r AHNE a Richard nifer o syniadau o ran dylunio a gweithiwyd drwy’r rhain cyn y penderfynwyd ar y dyluniad terfynol oedd ar ffurf hen gamera a oedd yn plygu. Cafodd y camerâu eu torri gyda laser a’u weldio gan Rich, yna cawsant haen gopr i sicrhau y bydd ganddynt hir oes a hefyd rhoi gorffeniad hyfryd iddynt sy’n gorwedd yn y dirwedd heb dynnu oddi wrth yr harddwch naturiol na chwaith fod yn ddisylw.
Yr uchelgais ar gyfer y prosiect yw wrth i fwy o luniau gael eu hychwanegu dros amser, fe fydd y newidiadau yn y dirwedd yn dod yn amlwg wrth i chi sgrolio drwy luniau a dynnwyd mewn misoedd neu flynyddoedd gwahanol. Mae gan yr holl safleoedd a ddewiswyd y potensial i newid drwy arferion rheoli cadwraeth, boed hynny yn dynnu rhywogaethau estron goresgynnol, rheoli coetir neu bori er lles cadwraeth. Fe fydd y tri safle yn newid yn ddramatig drwy’r tymhorau gyda lliwiau’r hydref yn Nyffryn Dyfrdwy yn adnabyddus a lluniau eisoes wedi eu tynnu o hynny, machlud yr haul a’r awyr dros fryniau Clwyd o Loggerheads a’r gwrychoedd a’r blodau gwyllt yn y gwanwyn a’r glaswelltir calchfaen uwchben Prestatyn i gyd yn wledd i’r llygad. Hefyd mae yna berygl y bydd y tirweddau hyn yn newid o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd, sychder, tywydd poeth, llifogydd neu danau gwyllt. Rydym i gyd yn gobeithio na ddaw’r effeithiau hyn fyth i Fryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ond gan ein bod eisoes wedi gweld effaith ddinistriol y tanau gwyllt ar Fynydd Llandysilio yn 2018 rydym yn gwybod fod yna botensial, a phe bai’r gwaethaf yn digwydd bydd cael cofnod gweledol o’r dirwedd cyn, yn ystod ac ar ôl hynny yn rhoi neges bwerus. Gyda lluniau yn cael eu hychwanegu i Instagram nid oes angen i swyddog prosiect yn nhîm yr AHNE ‘reoli’ data i’r dyfodol sy’n golygu fod hwn yn brosiect heb lawer o waith cynnal a chadw a gan ein bod wedi defnyddio gof lleol mae unrhyw waith allai fod ei angen ar y camerâu yn y dyfodol eisoes wedi ei ystyried. Gyda lwc fe fyddwn yn edrych yn ôl ymhen 20 mlynedd ar gasgliad enfawr o luniau a fydd yn dangos y dirwedd anhygoel hon.
Dywedodd y Swyddog Newid Hinsawdd Tom Johnstone ei fod yn “llawn cyffro o weld mwy o luniau yn cael eu huwchlwytho fel rhan o’r prosiect hwn. Rydw i wir yn edrych ymlaen at weld y lliwiau hydrefol a niwl y bore yn Nyffryn Dyfrdwy, machlud yr haul dros Fryniau Clwyd o Loggerheads a’r cyferbyniad rhwng y gaeaf a’r gwanwyn ar fryniau Prestatyn a’r lein reilffordd.
Dywedodd y Swyddog AHNE Howard Sutcliffe, “Mae’n wych fod y prosiect hwn wedi dwyn ffrwyth mewn ffordd mor drawiadol, mae’r camerâu wedi eu llunio’n hyfryd gan Richard ac yn cyd-fynd â thirwedd syfrdanol yr AHNE, ac mae Tom wedi arwain y prosiect hwn gyda chymaint o frwdfrydedd a hefyd gan roi sylw i fanylion.”
Dywedodd yr Aelod Arweiniol Win Mullen-James “Rwy’n llawn cyffro ynglŷn â’r prosiect ffotograffiaeth pwynt sefydlog, nid yn unig am ei fod yn rhoi cyfle gwych i’r cyhoedd gymryd rhan mewn cofnodi tymhorau newidiol yr AHNE ond hefyd gan fod gennym ein cofnod ein hunain er mwyn bod yn dyst i’r newid yn yr hinsawdd. Hoffwn ddiolch i’r tîm a arweiniwyd gan Tom Johnstone am eu gwaith arloesol.”