Arddangosfa Crocws yn ei Blodau

Arddangosfa Crocws yn ei Blodau

Mae gerddi hanesyddol Plas Newydd yn Llangollen wedi’u trawsnewid unwaith eto yn fôr porffor a gwyn syfrdanol, wrth i filoedd o grocysau flodeuo ar draws ei lawntydd. Caiff ymwelwyr â’r safle darluniadwy brofi arddangosfa drawiadol o liw, sy’n nodi dyfodiad y gwanwyn yng nghanol Gogledd Cymru.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae’r crocws ymhlith y blodau cyntaf i flodeuo rhwng diwedd y gaeaf a dechrau’r gwanwyn, gan ymddangos yn aml mor gynnar â mis Chwefror. Mae’r blodau egniol yn darparu ffynhonell hanfodol o neithdar a phaill ar gyfer gwenyn sy’n ymddangos yn gynnar a pheillwyr eraill.

Mae’r gerddi ym Mhlas Newydd yn enwog am eu lleoliad rhamantus a’u hanes cyfoethog, sy’n adnabyddus am eu cysylltiad gyda Ledis Llangollen. Bu i’r Fonesig Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby ymgartrefu ar y safle ar ddiwedd y 18fed ganrif ac roeddent yn hoff o fyd natur a garddio.

Trawsnewidiodd y Ledis y safle yn dirwedd ramantus, llawn planhigion lliwgar, llwybrau troellog, rhaeadrau a nodweddion addurniadol, sy’n dal i gyfareddu ymwelwyr hyd heddiw. Mae arddangosfa fywiog y crocws yn deyrnged haeddiannol i’w cariad tuag at arddwriaeth, sy’n ychwanegu at harddwch y gerddi y buon nhw’n eu trin ar un adeg.

Maent yn eu blodau ar hyn o bryd a disgwylir iddynt fod ar eu hanterth am wythnos arall.  Caiff ymwelwyr a ffotograffwyr eu hannog i wneud y mwyaf o’r uchafbwynt tymhorol trawiadol hwn, cyn iddynt ddiflannu am flwyddyn arall. Gellir ymweld yn ddyddiol â gerddi Plas Newydd yn Llangollen yn rhad ac am ddim, a bydd y giatiau’n cau wrth iddi nosi.

Meddai Jillian Howe, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned Tirweddau Cenedlaethol: “Mae arddangosfa’r crocws ym Mhlas Newydd yn olygfa syfrdanol bob amser ac maent wedi blodeuo’n arbennig eleni. Mae’n wych gweld cymaint o ymwelwyr yn mwynhau’r gerddi, yn union fel yr arferai Ladis Llangollen. Dewch draw i fwynhau’r olygfa dymhorol syfrdanol hon, tra bod y blodau ar eu gorau!”

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae Plas Newydd yn drysor hanesyddol yr ydym ni’n ffodus iawn o’i gael yma ar garreg ein drws yn Sir Ddinbych. Mae’r eiddo hanesyddol yn gyfle i archwilio cyfoeth o hanes ac mae’n le gwych i bawb o bob oed ymweld ag o.”

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2025 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?