Gweithgareddau
Nid dim ond y cerddwyr a’r beicwyr sy’n cael mwynhau’r AHNE – mae nifer o weithgareddau eraill i chi gymryd rhan ynddynt, a fydd yn rhoi cyfle i chi weld AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy o safbwynt gwahanol. Dyma rai syniadau.
Marchogaeth
Gyda dewis anhygoel o dirweddau a channoedd o gilometrau o lwybrau ceffylau a chilffyrdd, mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn gyrchfan berffaith ar gyfer marchogaeth. Dychmygwch farchogaeth ar hyd lonydd deiliog, sblasio drwy nentydd, archwilio coedwigoedd a chroesi mynyddoedd digysgod, mae rhywbeth at ddant pawb yma. Mae digonedd o ganolfannau marchogaeth yma wrth gwrs i roi cyngor i chi ynglŷn â phryd a lle i farchogaeth – ac i ddarparu ceffyl a chyfarwyddyd os oes angen. Mae rhai hyd yn oed yn cynnig Gwely a Brecwast i geffylau os yw’r cyfaill pennaf yn dod ar wyliau gyda chi.
Rhedeg ar Rostir
Mae’r AHNE yn ddelfrydol ar gyfer rhedeg dros y rhostiroedd, gyda llawer o lwybrau yn croesi bryniau gyda golygfeydd gwych. Mae’n gartref i Excalibur, un o farathonau oddi ar y ffordd mwyaf anodd y DU, a Ras Fynydd boblogaidd Cilcain bob Gŵyl Banc Awst. Beth am ymuno â Rhedwyr Bryniau Clwyd sy’n rhedeg llwybrau’r ardal yn rheolaidd gan godi arian i achosion lleol drwy eu digwyddiadau.
Achlysuron cymdeithasol
O wyliau ac eisteddfodau i farchnadoedd ffermwyr a nosweithiau comedi, mae digwyddiadau’n cael eu cynnal ym mhob rhan o AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy drwy gydol y flwyddyn. Dewch draw i gael blas o gynnyrch lleol, neu treuliwch noson yn gwrando ar Gôr Meibion. Rhowch dro ar un o’r nifer cynyddol o ddigwyddiadau a drefnir yn genedlaethol ac a gynhelir ar ein mynyddoedd a’n rhostiroedd hawdd, neu beth am edrych ar ein canllaw ni i’n digwyddiadau, O Gwmpas. Am fwy o wybodaeth, gweler ein digwyddiadau.
Bwyd a Diod
Mae’r cymunedau o fewn yr AHNE yn ailddarganfod y pleser o gynhyrchu bwyd a diod arbennig o’r cynnyrch o ansawdd anhygoel sydd gennym yn yr ardal. Gallwch chi hefyd ddarganfod prydau a chynnyrch o ansawdd gwych ar hyd a lled Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy – i’w bwyta yma neu i fynd adre’ efo chi! Er mwyn darganfod mwy am y cwmnïau hyn neu i ddarganfod digwyddiad bwyd a diod, dilynwch y dolenni isod.
Ar y dŵr
O’r cychod camlas byd-eang yn Llangollen i’r gamp newydd o badl fyrddio ar eich traed, mae amrywiaeth eang o weithgareddau ar y dŵr ar hyd ein hafonydd a’r gamlas. Gellir canŵio a rafftio yn ogystal â cherdded ceunentydd a chaiacio yn lleol, a pheidiwch â mynd adre heb brofi trip bythgofiadwy ar hyd Traphont Ddŵr Pontcysyllte.
Addysg
Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn un o ystafelloedd dosbarth mwyaf y byd. Drwy fynd allan i’r awyr iach a chael bod yn agos at natur, gall plant ddysgu mwy ynglŷn â pham bod y tirlun yn edrych fel ag y mae, sut roedd ein cyndeidiau yn byw a pham fod angen gwarchod y planhigion a’r anifeiliaid sy’n rhannu’n byd.
Mae Tîm yr AHNE yn rhedeg digwyddiadau rheolaidd sy’n dysgu plant am y byd naturiol a’u lle oddi mewn iddo. Yn hytrach na bod yn gaeth dan do, cânt faeddu eu dwylo (a’u dillad!) ar saffaris bwystfilod bach, helfeydd llus, wrth rwydo mewn pyllau a chymryd rhan mewn pob math o weithgareddau blêr hwyliog eraill.