Ymunwch â thîm yr Tirwedd Cenedlaethol am noson ysbrydoledig o syllu ar y sêr ar fryngaer hanesyddol Penycloddiau.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith pwysig y mae’r tîm wedi bod yn ei wneud i achub ein hawyr dywyll. Ein harbenigwr ar syllu ar y sêr ar gyfer y noson fydd Dani Robertson o Brosiect NOS.
· Bydd y digwyddiad yn cael ei deilwra ar gyfer cerddwyr profiadol. Bydd y daith gerdded yn cynnwys camfeydd a thir serth. Nodwch bod y daith gerdded yma yn un caled.
· Bydd cofrestru yn dechrau am 6:30yh cyn cychwyn ar y daith gerdded am 6:45yh.
· Gwisgwch esgidiau addas a dillad cynnes. Dewch â fflasg a thortsh, gyda golau coch os yn bosibl.
· Sylwch fod lleoedd yn gyfyngedig.
Byddwch yn ymwybodol y byddwn yn ffilmio a/neu dynnu lluniau yn ystod y digwyddiad. Os nad ydych chi’n dymuno ymddangos mewn unrhyw luniau a dynnir, rhowch wybod i’r trefnwyr cyn y digwyddiad os gwelwch yn dda.
Bydd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn defnyddio’r lluniau/ffilmiau mewn llyfrau ac eitemau hyrwyddo ac mae’n bosibl y byddant yn eu cyhoeddi ar wefan TC.