Ceisiadau Cynllunio ar lein
Ceisiadau Cynllunio ar lein
Mae cyllid a sicrhawyd o Rownd 2 o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ar gyfer gwelliannau mewn dau o’n Parciau Gwledig bellach wedi cyrraedd eu camau Cynllunio.
Parc Gwledig Loggerheads
Mae’r prosiect hwn yn ceisio gwella a chyfoethogi Parc Gwledig Loggerheads, porth i’r Tirwedd Cenedlaethol, trwy uwchraddio’r prif adeiladau ymwelwyr, creu canopi allanol gyda seddi ychwanegol a gwell mynediad i ymwelwyr, ochr yn ochr â gwaith lliniaru llifogydd y mae mawr ei angen. Prif nod y gwelliannau hyn fydd cynorthwyo i reoli’r pwysau sy’n gysylltiedig â chynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac ymateb i ddisgwyliadau cynyddol ymwelwyr.
Mae gwaith lliniaru llifogydd ar waith yn safle Parc Gwledig Loggerheads. Mae contractwyr lleol MWT Ltd, wedi eu penodi i gyflwyno’r cynllun. Mae cais Canolfan Ymwelwyr Loggerheads a gwelliannau i’r caffi yn fyw ar borth cynllunio Cyngor Sir Ddinbych ac yn aros am benderfyniad, gellir gweld y manylion ar y dolen isod.
Cyfeirnod y cais: 21/2024/1235/PF
Dyddiad cau ymateb yw 23ain Hydref 2024
Parc Gwledig Moel Famau
Mae’r prosiect hwn yn ceisio gwella Moel Famau, un o’r safleoedd prysuraf yn Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, trwy ddatblygu canolfan ymwelwyr steil ‘Nordig’, a fydd yn cynnwys cyfleusterau lluniaeth cyfleus a thoiledau, yn ardal maes parcio uchaf Bwlch Pen Barras, ynghyd â gwelliannau i lwybrau beicio yn yr ardal. Prif nod y gwelliannau hyn fydd sefydlu presenoldeb staff mwy parhaol ar y safle, a fydd yn helpu i reoli’r pwysau sy’n gysylltiedig â chynnydd yn nifer yr ymwelwyr. Bydd yr adeilad yn darparu gwybodaeth a chyngor i ymwelwyr, ynghyd â chyfleusterau lluniaeth cyfleus a thoiledau. Mae cais Moel Famau wedi ei gyflwyno i CSDd ac yn aros am benderfyniad.
Cyfeirnod y cais: 16/2024/1284/PF
Dyddiad cau ymateb yw 28ain Hydref 2024
I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau Gorllewin Clwyd a ariennir gan Lywodraeth y DU ewch i dudalennau gwe canlynol Cyngor Sir Ddinbych.