Twristiaeth Gynaliadwy

Twristiaeth Gynaliadwy

Yn Nhirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy rydym yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu twristiaeth gynaliadwy.

Mae ein strategaeth ddiweddaraf yn cwmpasu cyfnod o bum mlynedd o 2023 – 2028. Mae’n seiliedig ar ymgynghori, asesu a gweithdai gyda’r sector.  Ei ddiben yw darparu cyfeiriad ar gyfer twristiaeth yn yr ardal warchodedig ynghyd â fframwaith ar gyfer cydgysylltu camau gweithredu gan bawb dan sylw. Yn benodol, mae’r strategaeth yn amlinellu gweledigaeth hirdymor ar gyfer twristiaeth gynaliadwy yn TC Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae’r weledigaeth yn cydnabod;

  • y nifer gynyddol o bobl sy’n cymryd rhan mewn hamdden awyr agored, sy’n rhoi mwy a mwy o bwysau ar ecosystemau bregus a gwerthfawr
  • yr heriau rhanbarthol a byd-eang sy’n codi o argyfyngau hinsawdd a natur
  • yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant yn sgil yr argyfwng costau byw a thueddiadau mewn twristiaeth ar ôl Covid-19
  • y statws Parc Cenedlaethol arfaethedig ar gyfer ardal sy’n cynnwys TC Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Nod y strategaeth hon yw diffinio llwybr i gyflawni’r weledigaeth hon ar gyfer twristiaeth gynaliadwy sy’n cyd-fynd â phedair prif thema Cynllun Rheoli’r AHNE 2020-2025; Natur, Tirwedd a Threftadaeth, Addasu i Hinsawdd sy’n Newid, Hamdden, Iechyd a Lles a’r Economi Wledig.

Mae’r strategaeth twristiaeth gynaliadwy hon ar gyfer TC Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn gosod nodau hirdymor cynhwysfawr fydd angen newid mewn gweithdrefnau a rheolaeth, ynghyd ag ymchwil, dysg a newid ymddygiad. Mae gwaith sylweddol i’w wneud i’w cyflawni. Ni ellir cyflawni’r heriau gan yr AHNE ar ei ben ei hun, bydd angen dull o gydweithio gan y cyhoedd, y sector preifat a’r trydydd sector.

Mae Cynllun Gweithredu Twristiaeth Gynaliadwy TC Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (2023-2028) yn cynrychioli dechrau’r daith i gyflawni’r weledigaeth.  Mae’r gweithgareddau a amlinellir yn y Cynllun Gweithredu yn cynrychioli dechrau heriol ond pragmatig.

Oeddech chi’n gwybod?

Gwasanaethir y Dirwedd Genedlaethol yn dda gan lwybrau cylchol a hyrwyddir.  Un o’i brif asedau yw y gall ddarparu ar gyfer cerddwyr o bob gallu, gan ganiatáu i’r rhai nad ydynt wedi arfer â theithiau cerdded egnïol neu heriol i brofi golygfeydd cefn gwlad.

Mae’r Weledigaeth hon yn cydnabod bod cymunedau/diwylliant, tirwedd ac amgylchedd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ganolog i gynnig twristiaeth yr ardal ac yn diffinio sut y gall rheoli a darparu twristiaeth hyrwyddo a darparu profiadau o natur unigryw a harddwch yr ardal wrth warchod a gwella ei rinweddau arbennig hefyd.

 

Fel sefydliadau sy’n rhan o’r gwaith o reoli a darparu twristiaeth yn yr AHNE ac fel partneriaid yn natblygiad a chyflawni’r strategaeth hon, rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad o safon uchel i’n hymwelwyr, yn seiliedig ar egwyddorion cynaliadwyedd cryf wedi’u fframio gan yr argyfyngau hinsawdd a natur.

 

Byddwn yn sicrhau bod y cynnig yn cael ei reoli’n gyfannol gan bartneriaeth gref sydd wedi ymrwymo i gydweithio i fodloni ein hamcanion cynaliadwyedd.

Dadlwythiadau Defnyddiol

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?