Dychweliad yr Erddinen Wen
Dychweliad yr Erddinen Wen
Un o goed mwyaf prin y byd yn dychwelyd i’w chartref hanesyddol yn Llangollen
Mae partneriaeth wedi diogelu coeden brin iawn a gafodd ei darganfod yn Llangollen, fel bod modd i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau.
Mae disgyblion o Ysgol Dinas Bran, Ysgol y Gwernant ac Ysgol Bryn Collen wedi bod yn dysgu am Erddinen Wen Llangollen, coeden brin iawn, sy’n bodoli mewn dau leoliad yn unig yn y byd.
Yn 2017, bu i brosiect a gynhaliwyd mewn partneriaeth rhwng Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Sŵ Caer a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gomisiynu arolwg manwl ar gyfer pennu poblogaeth y rhywogaeth hon, yn ogystal â’i chyflwr.
Dim ond cyfanswm o 315 o goed a gofnodwyd, cafodd 307 eu darganfod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Creigiau Eglwyseg, ac wyth coeden ychwanegol yn Swydd Amwythig.
Casglwyd aeron yn ofalus hefyd, cyn mynd â nhw i Sŵ Caer, lle bu botanegwyr medrus yn tyfu’r planhigion am nifer o flynyddoedd, gan ailgreu amgylchedd unigryw Llangollen mewn meithrinfa blanhigion y tu ôl i’r llenni.
Erbyn hyn, chwe blynedd yn ddiweddarach, mae 20 o’r coed prin wedi’u hailblannu mewn sawl lleoliad o amgylch Llangollen, ac fe blannwyd un yn Ninas Bran y mis hwn. Cefnogwyd y gwaith o’u hailblannu gan ddisgyblion ysgol lleol o Ysgol Dinas Bran a gwirfoddolwyr.
Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad: “Rydym mor ffodus o’r amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt a geir yn Sir Ddinbych a Thirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae’r ffaith bod bron i boblogaeth fyd-eang gyfan y rhywogaeth hon i’w chael yma yn rhyfeddol ac yn rhywbeth i’w drysori.”
“O ystyried y mannau anhygyrch y mae’r coed hyn yn tyfu, mae’n hawdd anghofio pwysigrwydd y rhywogaeth hon, ac nid oes llawer o bobl yn ymwybodol o hynny.
“Trwy eu plannu gyda phlant ysgol, bydd gan genedlaethau’r dyfodol well gwerthfawrogiad o’r hyn sydd ar garreg ein drws, a bydd pobl nawr yn gallu gweld a gwerthfawrogi Gerddinen Wen Llangollen, a hithau wedi’i phlannu yn y dref a’r cyffiniau.”
Meddai Richard May, Swyddog yr Amgylchedd CNC: “Rydym yn falch iawn o fod wedi gweithio ar y prosiect cadarnhaol hwn gyda’n partneriaid yn Sŵ Caer a Thirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
“Bellach, mae gennym archwiliad cyfredol o Erddinen Wen Llangollen, sydd mewn perygl, a gwell syniad o ran iechyd y boblogaeth a’r gwaith rheoli cadwraeth sydd ei angen.
“Mae’n wych meddwl mai dim ond mewn dau le yn y byd y gellir darganfod y goeden hon, ac rwy’n mwynhau gweld y coed hyn yn cael eu hailblannu yng Nghastell Dinas Bran.”
Ychwanegodd Richard Hewitt, Rheolwr Tîm y Feithrinfa yn Sŵ Caer: “Mae Sŵ Caer yn adnabyddus am ei gwaith achub rhywogaethau gydag amrywiaeth o anifeiliaid, ond o bosibl nad yw llawer o bobl yn ymwybodol ein bod ni hefyd wedi ymrwymo i achub trysorau botanegol y byd. Mae ein tîm wedi ymroi mwy na chwe blynedd i feithrin y rhywogaeth hon yn ein meithrinfa, gan ddechrau gyda dim ond hedyn, a’u tyfu nhw nes eu bod yn goed ysblennydd fel y rhain. Mae’n deimlad gwych i’w gweld nhw’n mynd o nerth i nerth yn eu cartref hanesyddol yng Ngogledd Cymru.
“Heb gymorth y bartneriaeth hon, gallai’r goeden arbennig hon fod wedi diflannu am byth.”