Newid Enw
Newid Enw
Mae gan Ardal o Harddwch Naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AHNE) enw newydd a logo newydd a dyma fo:-
Rydym wedi newid i Dirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Pam newid rŵan?
Dros sawl blwyddyn mae dau adroddiad cenedlaethol, yr Adolygiad Marston (Cymru) a’r Adolygiad Glover (Lloegr) wedi edrych ar sut y gellir gwella pob agwedd o AHNE gan gynnwys eu cyfeiriad yn y dyfodol. Un o’r prif gyfleoedd oedd i adfywio enw, cyfeiriad a brandio. Mae’r ddau adroddiad yn awgrymu newid mewn enw AHNE i Dirweddau Cenedlaethol. Ar 22 Tachwedd 2023, daeth AHNE, yn bennaf yn Lloegr yn Dirweddau Cenedlaethol. Ers nifer o flynyddoedd, mae’r acronym ‘AHNE’ wedi’i gam ynganu, ei gamddeall ac wedi parhau yng nghefndir dynodiadau. Mae ein cymdeithas rhiant hefyd wedi newid ei enw i fod Y Gymdeithas Tirwedd Cenedlaethol.Mae ein tirwedd eisoes wedi cael ei alw yn Dirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar Google Maps a gan y Times ar ‘Hidden Gems’.
Mae Timau Tirweddau Cenedlaethol bob amser wedi cyflawni gwaith anhygoel sy’n gwneud gwahaniaeth i natur, hinsawdd a phobl. Ar gyfer pob £1 o arian craidd maent yn ei dderbyn, mae timau Tirweddau Cenedlaethol yn darparu o leiaf £4 o waith ar y tir gan sicrhau cyllid allanol, symud eu tîm o wirfoddolwyr a chydweithio’n effeithiol. Nid yw’r proffil sydd ganddynt yn cyfateb i’r effaith anhygoel mae’r rhwydwaith yn ei gael.
Y Teulu
Drwy greu hunaniaeth mwy unedig ar draws y 46 aelod o’r teulu Tirwedd Cenedlaethol, rydym yn gallu dangos maint cyfunol, uchelgais ac effaith ein rhwydwaith yn well. – Mae gennym y cyfle i wneud ein brand yn fwy hygyrch a chynhwysol – cyflawni argymhellion ‘Adolygiadau Tirwedd y llywodraeth’, a gwneud i bawb deimlo eu bod yn derbyn croeso yn y tirluniau hyn. – Mae’r ailfrandio hwn yn ddatganiad o’n huchelgais, i ni gael ein gweld fel partner cyflawni a chreu achos cryfach ar gyfer cyfleoedd cyllid.
Dal i fyny
Ar 12 Ebrill 2024 roedd y corff sy’n gyfrifol am y tirwedd dynodedig hwn wedi cymeradwyo’r newid enw. Roedd y Bartneriaeth eisoes wedi cefnogi’r egwyddor ac wedi sefydlu gweithgor i graffu ar y dystiolaeth a darparwyd ei ganfyddiadau i’r Cyd Bwyllgor. Bydd y cyrff hyn hefyd yn newid enw i Gydbwyllgor Tirwedd Cenedlaethol a Phartneriaeth Tirwedd Cenedlaethol.
Ar 24 Ebrill roedd y Gymdeithas Tirwedd Cenedlaethol wedi cynnal digwyddiad dathlu gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn rhan o adeilad y Pierhead o’r Senedd yng Nghaerdydd.