Cyfarfod Cefnogwyr AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Cynhaliwyd Cyfarfod Cefnogwyr AHNE llwyddiannus yng Ngholeg Amaethyddiaeth Llysfasi.
Ar hyn o bryd mae AHNE yn chwilio am fwy o Gefnogwyr i gynrychioli eu Cymuned neu Gyngor Tref o fewn AHNE er mwyn gwella cyfathrebu a chydweithio ar draws yr AHNE gyfan.
Cynhaliwyd fforwm ar 2 Mawrth yn Hwb Cymunedol Llysfasi ar gyfer Cefnogwyr AHNE, Cynghorau Tref a Chymuned ac Aelodau Lleol, lle cafodd Gynghorwyr gyfle i ddysgu mwy am y cyfle a’r gwaith rydym yn ei wneud yn yr AHNE, gan gynnwys:
Trosolwg o’r AHNE, Cyflwyniad i’r AHNE a’n barn ar Barc Cenedlaethol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru.
Rhaglen Awyr Dywyll rhagorol a sut all bawb chwarae rhan i helpu ein bywyd gwyllt
Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy a’r prosiectau hanesyddol a thirlun y mae wedi ymgysylltu â nhw
Prosiect Rhostir a Thanau Gwyllt dramatig a gyda mwy o ystyriaeth, sut allwn ni gynnal ein hucheldir gyda’r dulliau traddodiadol gwych o ffermio.
Cafodd y Fforwm dderbyniad da a bydd un arall yn cael ei drefnu yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Dywedodd Dan Rose, Cynghorydd Sir y Fflint ac aelod o Bartneriaeth AHNE: “Rwy’n mwynhau bod yn rhan o waith yr AHNE, mae’n dod â chymaint o agweddau ynghyd, sy’n ddiddorol ac yn berthnasol. Y peth syml a ddysgom heno oedd y dull o adeiladu Castell Dinas Brân a nodweddion hanesyddol eraill y gallwn weld yn ein tirlun heddiw.”
Oeddech chi’n gwybod?
Os nad ydych yn Gynghorydd Cymuned ac eisiau chwarae rhan yn ein dyfodol, ffoniwch neu anfonwch e-bost i Karen (Karen (karen.weaver@denbighshire.gov.uk, ac mi allwn weld pa gyfleoedd eraill y gallwn eu rhannu a chi.