Agoriad y Cwt y Fforddolwyr
Agoriad y Cwt y Fforddolwyr
Mae Prosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ wedi adfer yr hen gwt fforddolwyr hwn a arferai gael ei ddefnyddio yn y gorffennol fel storfa a lloches gan weithwyr a gyflogwyd ar Gamlas Llangollen. Roedd cytiau fel hyn yn cynnig lloches ddymunol iawn i’r fforddolwyr a oedd yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar ran o’r gamlas, a oedd fel arfer tua 3 milltir o hyd.
Oeddech chi’n gwybod?
Yn wreiddiol, byddai’r term fforddoliwr wedi cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r dyn a dalwyd i gadw hyd o ‘ffordd’ yn daclus ac ar agor, a hynny mor bell yn ôl â’r 1300au! Byddai un fforddoliwr wedi bod yn gyfrifol am gynnal a chadw hyd o tua 3 milltir, a byddai’n torri ac yn clirio’r glaswellt a’r chwyn. Yn ddiweddarach, roedd y Cynghorau Plwyf yn eu talu.
Wrth gwrs, fe wnaed y gwaith yma i gyd heb gymorth offer modern na thrydan. Byddai cwt y fforddolwyr yn cael ei ddefnyddio i storio offer llaw a deunyddiau, megis offer torri glaswellt a thocio gwrychoedd a hogwyr, cribinau chwyn (cebiau), rhawiau a sieflau. Fe fydden nhw wedi bod angen bwcedi i gludo deunyddiau hanfodol fel clai i lenwi tyllau a cherrig mân i raeanu’r llwybr halio mewn mannau mwdlyd. Roedd berfa’n declyn buddiol hefyd, gan y byddai angen cludo deunyddiau i’r man priodol pan nad oedd cwch ar gael.
0 Sylwadau
Perthnasol
Y Bws Darluniadwy
Our Picturesque Landscape
Gwasanaeth bws newydd yn Nyffryn Dyfrdwy i ddarparu mynediad at rai o gyrchfannau allweddol y dirwedd hardd a hanesyddol hon.
Crynodeb o'r Prosiect: Mynediad
Our Picturesque Landscape
Crynodeb o'n Prosiect Tirwedd Pictiwrésg: Mynediad