Y Bws Darluniadwy
Camwch ymlaen a chamwch i ffwrdd – bws sy’n ymweld â Dyffryn Dyfrdwy!
Rydym yn falch iawn o lansio pedwerydd tymor Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy i ddarparu mynediad at rai o’r cyrchfannau allweddol yn y dirwedd hardd a hanesyddol hon.
Mae gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn mynd ar lwybr cylchol bob dydd Sadwrn o Mawrth 30ain tan Awst 31ain 2024, ac mae’n cysylltu Llangollen a’r pentrefi cyfagos ag atyniadau poblogaidd lleol gan gynnwys Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Gwarchodfa Natur Wenffrwd, Rhaeadr y Bedol, Abaty Glyn y Groes, Tŷ Hanesyddol Plas Newydd a Bwlch yr Oernant.
Fe fydd y gwasanaeth hwn yn galluogi pobl i ymweld â’r atyniadau allweddol hyn heb fod angen car a lleihau’r angen am leoedd parcio. Hefyd bydd yn ei gwneud hi’n haws i’r rheiny heb gar i deithio i’r lleoedd yma a helpu i leihau tagfeydd yn rhai o ardaloedd prysuraf Dyffryn Dyfrdwy. Bydd y gwasanaeth hefyd yn rhoi cyfle i drigolion lleol ac ymwelwyr i archwilio’r ardal ehangach.
Mae’r bws yn cynnig cyfleuster camu ymlaen a chamu i ffwrdd gyda phris tocyn 1Bws yn caniatáu teithio diderfyn drwy’r dydd sy’n golygu ei bod yn ddelfrydol i gamu oddi ar y bws i ymweld â safle ac yna yn ôl ar y bws yn hwyrach. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu teithiau am ddim i Ddeiliaid Cerdyn Bws Cymru drwy Drafnidiaeth Cymru!
Bydd Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy 199 ar gael ar ddyddiau Sadwrn yn unig, o ddydd Sadwrn Mawrth 30ain tan ddydd Sadwrn Awst 31ain 2024. I weld yr amserlen lawn a phrisiau’r tocynnau ar gyfer gwasanaeth y Bws Darluniadwy, ewch i dudalen we Amserlenni Bysiau Sir Ddinbych a 1Bws neu ewch i Ganolfan Groeso Llangollen i nôl taflen wybodaeth.
Dadlwythiadau Defnyddiol
Perthnasol
Crynodeb o'r Prosiect: Mynediad
Our Picturesque Landscape
Crynodeb o'n Prosiect Tirwedd Pictiwrésg: Mynediad
Our Picturesque Landscape
Our Picturesque Landscape Project is funded by the National Lottery Heritage Fund