Fy Wythnos Gyntaf ….
Fy Wythnos Gyntaf ….
Fy Wythnos Gyntaf fel Ceidwad Llanw Cynorthwyol
Ddiwedd mis Gorffennaf mi ddechreuais i weithio i AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gyda thîm cefn gwlad Sir Ddinbych. Dyma borth i Gymru, a pha le gwell i dreulio fy oriau gwaith ac i ddysgu sgiliau newydd nag yma yn harddwch yr ardal unigryw hon.
Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf dw i wedi bod yn helpu i glirio Jac y Neidiwr, ac wedi gweld maint y broblem ar rai o’n safleoedd a dysgu sut i waredu’r planhigyn yn briodol – roedd y dasg yn un boddhaol iawn ond weithiau roedd cyrraedd y “coedwigoedd” Jac y Neidiwr yma’n anoddach na’r disgwyl. Roedd yn rhaid gwisgo esgidiau glaw ac roeddech chi’n siŵr o wlychu, ond yng ngwres yr haf ac yn dilyn cyfnod clo cenedlaethol, doedd dim byd yn well gen i na threulio’r dyddiau yn gwneud hyn. Roedd y gweithgaredd yma’n gyfle gwych i mi ddod i adnabod fy nghydweithwyr newydd gan ei bod hi’n ddistaw iawn heb sŵn peiriannau. Bu i ni dargedu ardaloedd ar hyd Afon Dyfrdwy, lle deniadol iawn ar ôl diwrnod hir o waith. Yn wir un diwrnod poeth gwelsom blanhigyn Jac y Neidiwr ar ynys a dyma un o’m cydweithwyr yn tynnu ei esgidiau a’i sanau a cherdded drwy’r dŵr bas i dynnu’r planhigyn olaf.
Yn ogystal â cheisio rheoli lledaeniad planhigion ymledol, roeddem ni hefyd yn edrych ar ôl ac yn rheoli ein safleoedd prysuraf fel Rhaeadr y Bedol ger Llangollen, sy’n safle treftadaeth y byd UNESCO. Mae’r gored yn troi 12 miliwn tunnell o ddŵr Afon Dyfrdwy i greu dechrau’r gamlas sy’n mynd yr holl ffordd i’r Waun dros ddwy draphont ddŵr wedi’u codi gan Thomas Telford. Er ei fod yn fach, mae’r safle ei hun yn hafan ar gyfer gweithgareddau chwaraeon dŵr, perchnogion cŵn a phobl sy’n cerdded ar hyd y gamlas. Roedd rheoli’r safle ar benwythnosau a diwrnodau poeth yn gyfle i gwrdd â phobl leol a chynorthwyo ymwelwyr. Yn nodweddiadol, mae tywydd gogledd ddwyrain Cymru yn gallu troi’n gyflym a gan mai hon oedd fy swydd gyntaf yn gweithio yn yr awyr agored ymhob tywydd, bob dydd, buan iawn y daeth paratoi ar gyfer popeth yn ail natur i mi – dillad glaw, haenau ychwanegol, digon o ddŵr ac wrth gwrs eli haul.
Y peth gorau am fy mhrofiadau hyd yma ydi’r teimlad o gyflawni rhywbeth a gwneud gwahaniaeth i fro fy mebyd. Mae un diwrnod yn aros yn fy nghof. Dwy flynedd yn ôl mi welais i’r tân yn ymledu ar Fynydd Llantysilio a fu’n llosgi am fis a mwy ac a ddinistriodd oddeutu 250 hectar o lus, grug ac eithin. Yn ystod fy wythnos gyntaf mi ges i gyfle i helpu i adfer y mynydd gan daenu tomennydd o rug i wasgaru’r hadau – roedd y tomennydd hyn mor fawr nes ei fod yn cymryd dros ddwy awr i ddau ohonom ni osod y grug yn orchudd tenau dros yr ardal a effeithiwyd arni. Braint i mi ydi gallu treulio fy amser yn cyfrannu at reolaeth ardal mor wych.
Emma Watson, Ceidwad Llanw Cynorthwyol