Plas Newydd
Byddwn yn ailagor Tŷ Hanesyddol Plas Newydd am y tymor o ddydd Sadwrn 23 Mawrth 2024.
Bydd yr ystafell de hefyd yn agor ar 23 Mawrth 2024, saith diwrnod yr wythnos 10yb – 4yp a bydd y gerddi ar agor i’r cyhoedd bob dydd o 8yh hyd gyfnos. Croeso i gŵn ar dennyn
Plas Newydd
Yn 1780 prynodd Lady Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby fwthyn carreg diymhongar ar gyrion Llangollen. Dros yr hanner can mlynedd nesaf treuliodd y ddwy’r rhan fwyaf o’u hamser yn troi’r adeilad yn gampwaith gothig a’r gerddi’n hafan o dirluniau amrywiol i apelio at y synhwyrau creadigol.
Y tu mewn i’r adeilad fe welwch dderw wedi’i gerfio a gwydr lliw wedi’i achub o eglwysi lleol. Wedi’u harddangos yn y tŷ mae eitemau o eiddo’r merched ac mae ‘na hefyd daith awdio sy’n adrodd hanes ‘y Ladis’ y bu cymaint o sôn amdanynt ar ôl iddynt redeg i ffwrdd gyda’i gilydd i wneud eu cartref yn Llangollen.
Oeddech chi’n gwybod?
Cafodd y cylch cerrig ar y tir ei osod gan Orsedd y Beirdd ar gyfer seremoni wobrwyo Eisteddfod Genedlaethol Llangollen yn 1908.
Ewch am dro drwy’r 10 acer o dir i ddarganfod gerddi addurniadol ffurfiol a choetir hyfryd. Gallwch hefyd fynd am dro ar hyd yr afon drwy’r glyn a gafodd ei adnewyddu fel rhan o’r prosiect Ein Tirlun Darluniadol. Ym mhob cwr o’r tiroedd a’r gerddi fe ddewch o hyd i lefydd eistedd cudd, golygfeydd godidog a chynlluniau plannu cywrain lle gall ymwelwyr aros am ennyd i werthfawrogi’r harddwch o’u cwmpas.
Daeth llawer i wybod am y gyfeillgarwch arbennig rhwng y Foneddiges Eleanor a Miss Sarah a chroesawodd y ddwy nifer fawr o ymwelwyr adnabyddus i’w cartref, gyda Dug Wellington, Wordsworth, Shelley, Sir Walter Scott a Josia Wedgewood yn eu plith.
Yn awr gallwch chi ddilyn yn ôl eu traed a phrofi drosoch eich hun y lle hudolus a rhamantaidd hwn. Mae staff gwybodus wrth law i ateb unrhyw gwestiynau ac mae’r Ystafelloedd Te bendigedig yn gweini bwyd a diod lleol a theisennau cartref.
Cliciwch yma i weld yr amseroedd agor a manylion y rhaglen brysur o ddigwyddiadau.