Dinas Brân
Yn coroni ar ben mynydd creigiog dros Langollen, mae Castell Dinas Brân – ‘the Crow’s Fortress’ – yn un o’r cadarnleoedd mwyaf dramatig a llawn chwedlau ym Mhrydain. Wedi’i leoli yng nghornel caer Oes Yr Haearn, mae’n un o’r ychydig o gestyll carreg Cymreig sydd dal i sefyll, a adeiladwyd yn y 13eg Ganrif gan Gruffudd ap Madoc, rheolwr gogledd Powys.
Fe ychwanegir at ddirgelwch y castell gan y ffaith mai dim ond ar droed y gellid ei gyrraedd, ar ôl dringfa reit galed. Ond mae’r daith gerdded wedi cael ei wneud yn haws gan ystod eang o welliannau a ymgymerwyd gan staff a gwirfoddolwyr AHNE, sydd wedi bod yn brysur yn gosod cyfeirnodau, gatiau mochyn a llwybrau cerdded cerrig at y castell ei hun.
Yn ogystal â’r golygfeydd panoramig anhygoel, mae’r ddringfa hefyd yn eich gwobrwyo gyda’r cyfle i ymchwilio adfeilion y castell.
Oeddech chi’n gwybod?
Mae rhai pobl yn credu bod Y Greal Sanctaidd wedi’i gladdu mewn ogof yn ddyfn o dan Gastell Dinas Bran.
Wedi’i amgylchynu gan ffos wedi’i thorri â cherrig ac ochrau serth, mae’r rhain yn cynnwys adfeilion porthdy, gorthwr, a ‘thŵr Cymreig’ wedi’i siapio fel D. Wrth edrych yn agosach, gellir gweld nodweddion tebyg i blaster wal, lle tân, a hyd yn oed toiledau en-suite, yn dangos ei fod unwaith yn ogoneddus a gyda phob cyfleuster, yn ogystal â chaer wedi’i amddiffyn yn dda.
Fodd bynnag, prin 20 mlynedd y bu Dinas Brân yn weithredol. Dechreuodd yn yr 1260au a fe’i gadawyd a’i llosgwyd gan ei amddiffynwyr Cymraeg yn 1277. Yna cafodd ei warchod am gyfnod byr gan y Saeson – a nododd y Cadlywydd “there is no stronger Castle in all Wales, nor has England a greater.” Ond fe sicrhaodd ei anhygyrchedd ei fod wedi cael ei adael eto i’r brain, a dyna lle cafodd ei enw.