Awyr Dywyll

Awyr Dywyll

  • Prosiect Awyr Dywyll / Dark Skies Project

Nid yn unig y mae gan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy rai o’r tirweddau harddaf yng ngolau dydd, mae yna hefyd leoliadau awyr dywyll rhagorol lle gellir profi rhyfeddod awyr naturiol. Rydym yn credu y dylid gwarchod awyr dywyll y nos; dyna pam ein bod yn frwdfrydig dros ennill statws swyddogol gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA).

Mae pwysigrwydd tywyllwch o ansawdd da yn ddeublyg. I ddechrau, mae tua 60% o’n bywyd gwyllt yn dod yn fyw yn y nos ac mae astudiaethau wedi dangos bod golau artiffisial yn y nos yn cael effeithiau negyddol – weithiau’n farwol – ar lawer o greaduriaid (gan gynnwys bodau dynol) sy’n effeithio ar ymddygiadau fel maeth, patrymau cysgu, atgenhedlu a diogelwch rhag ysglyfaethwyr.

Hoffem sicrhau bod awyr y nos yn yr AHNE yn cael ei gadw fel y gall ein bywyd gwyllt ffynnu yn eu cynefinoedd naturiol, gan fyw yng nghylchoedd naturiol nos a dydd.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae 60% o’n bioamrywiaeth yn dibynnu ar dywyllwch i oroesi.

Yn ail, ychydig o leoedd sydd ar ôl lle gall pobl gael gwir ganfyddiad o’r nos a’i awyr syfrdanol yn llawn sêr. Mewn gwirionedd dim ond 2% o bobl sy’n byw yn y DU fydd yn profi awyr wirioneddol dywyll. Rydym yn ffodus ein bod mewn sefyllfa lle gall ymwelwyr fynd yn hawdd i lefydd sydd ag ychydig iawn o lygredd golau o’r ardaloedd poblog o’u cwmpas, sy’n golygu y gall seryddwyr, selogion, beirdd ac ysgolheigion fel ei gilydd fwynhau un o’r sioeau mwyaf ysblennydd ar y Ddaear.

Mae’r Bartneriaeth Awyr Dywyll, NOS, yn gydweithrediad rhwng AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Parc Cenedlaethol Eryri, AHNE Arfordir Ynys Môn ac AHNE Llŷn i hyrwyddo gwerth awyr dywyll a’u cadw trwy bolisïau goleuo cyfrifol a chefnogaeth y cyhoedd.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2025 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?