Parc Gwledig Loggerheads
Mae Parc Gwledig Loggerheads yn fan arbennig iawn, yn gyfoeth o fywyd gwyllt a threftadaeth. Mae’n borth perffaith i ymwelwyr sydd eisiau archwilio Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Eisteddai Loggerheads islaw clogwyni calch trawiadol Dyffryn Alun, lle mae’r afon yn mynd drwy geunentydd coediog serth a glaswelltir agored a diarffordd. Mae dylanwad calchfaen i’w weld ymhob rhan o’r parc yn ogystal ag ym mhentrefan Cadole gerllaw. Mae’r calchfeini wedi siapio edrychiad y tirlun yn ogystal â’r planhigion sy’n tyfu yma – ar y glaswelltir llawn blodau ar ben y bryn ac yn y coetiroedd gwlyb ger yr afon.
Denodd y calchfaen ddiwydiant i’r ardal. Cafodd y gwythiennau mwynol bras yn y graig eu mwyngloddio’n eang am blwm yn ystod y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chodwyd pentref Cadole ar gyfer y mwynwyr.
Ers blynyddoedd lawer mae’r calchfeini hardd wedi ysbrydoli artistiaid, fel yr artist tirwedd Prydeinig Richard Wilson, yn ogystal â denu nifer fawr o ymwelwyr.
Canolbwynt Parc Gwledig Loggerheads heddiw ydi’r Gerddi Te, gydag afon Alun ar un ochr a Chanolfan Croeso yr AHNE, adeiladau’r felin adferedig a Caffi Florence ar yr ochr arall. Yma mae modd i ymwelwyr eistedd i gael picnic neu fwynhau byrbryd o’r caffi, ac mae yma hefyd ddigon o le i’r plant chwarae.
Mae rhwydwaith o lwybrau gydag arwyddion yn ymestyn o’r parc – tua’r gorllewin i Barc Gwledig Moel Famau a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, tua’r gogledd ar hyd Llwybr y Lît i Gilcain a Cheunant y Cythraul, tua’r dwyrain i Gadole a Phant-y-mwyn a thua’r de-ddwyrain i Faeshafn a Gwarchodfa Natur Leol Moel Findeg. Mae llyfrynnau cerdded a mapiau ar gael yng Nghanolfan Bryniau Clwyd wrth ymyl y maes parcio.
Dadlwythiadau Defnyddiol
Perthnasol
Amserau Agor a Phrisiau Loggerheads
Canolfan Loggerheads:
10yb - 5yp bob dydd
Maes Parcio Loggerheads:
8yb - 9yp
Prisiau am barcio:
£1.50 am ddwy awr / £2 am bedair awr / £5 am y diwrnod cyfan.