Crynodeb o’r Prosiect: Mynediad
Mae dathlu treftadaeth ddiwydiannol a diwylliannol yr ardal yn agwedd bwysig ar y Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, ac annog pobl i archwilio Safle Treftadaeth y Byd a’r tirlun o’i gwmpas, oddi wrth y strwythurau a’r safleoedd prysuraf a mwyaf poblogaidd.
Mae’r gwaith yn cynnwys arwyddion newydd mewn safleoedd allweddol, er mwyn rhoi gwybodaeth ynglŷn â’r hanes cyfoethog sydd wedi siapio’r ardal, a gall trigolion Trefor bellach fwynhau llwybr cerdded newydd drwy’r coed sy’n cysylltu’r ganolfan gymuned â’r gamlas.
Mae’r prosiectau sydd ar y gweill yn cynnwys y gyfres o deithiau cerdded cylchol Cerdded y Darluniadwy. Bydd y rheiny’n mynd ag ymwelwyr at olygfeydd newydd er mwyn gwella’u profiad a’u dealltwriaeth o Safle Treftadaeth y Byd. Bydd camera obscura gwych yn cael ei ailosod yng Nghastell Dinas Brân, gan ddefnyddio technegau sy’n dyddio nôl ganrifoedd, er mwyn rhoi golygfa wych trem aderyn o gefn gwlad o’u cwmpas.
Oeddech chi’n gwybod?
Fe arferai fod yna gamera obscura ar gopa Castell Dinas Brân yn y cyfnod Fictoraidd, ynghyd ag ystafell de draddodiadol! Cafodd y ddau adeilad eu dymchwel ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, ac maent wedi parhau felly ers hynny.
Man gweld a mynediad at Raeadr y Bedol
Mae’r tŷ mesur a’r sianelau cysylltiedig yn nodi’r pwynt ble caiff y gamlas ei bwydo gyda 12 miliwn galwyn o ddŵr bob dydd o Raeadr y Bedol ar yr Afon Dyfrdwy. Fe’i hadeiladwyd gan Thomas Telford a William Jessop, ac mae’n rhan sylfaenol o hanes y gamlas, y man ble mae popeth yn dechrau a man cychwyn Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte.
Cyn prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, doedd dim posibl i bobl gael mynediad at y trwynau carreg sy’n creu strwythur y gwaith dŵr, gyda chymysgedd o ffensys, arwyddion a giatiau wedi eu gosod dros y blynyddoedd. Mae’r prosiect wedi ei gwneud hi’n bosibl cael mynediad am y tro cyntaf at y rhan hon o Safle Treftadaeth y Byd, gan alluogi’r cyhoedd i droedio a phrofi’r rhan bwysig hon o Safle Treftadaeth y Byd. Mae hefyd yn rhoi man gwych i fwynhau golygfa o Raeadr y Bedol, sy’n lle gwych i gyrraedd Safle Treftadaeth y Byd gan dynnu sylw at bwysigrwydd Camlas Llangollen a dylanwad Thomas Telford ar Ddyffryn Dyfrdwy.
Cymerwch Gam yn ôl Mewn Amser
Mae cyfres o ffilmiau llawn gwybodaeth wedi’u hanimeiddio wedi cael eu lansio, sydd yn teithio ar draws lleoliadau yn Nyffryn Dyfrdwy. Maent yn darlunio y newidiadau i’r tirlun dros amser, gan ddangos y newid o ardaloedd bugeiliol i drefol ar draws y canrifoedd gyda diwydiannaeth yr ardal, ac yna’r gamlas a ffordd yr A5 yn agor Dyffryn Dyfrdwy i ymwelwyr.
Ochr yn ochr â’r ffilmiau wedi’u hanimeiddio, mae cyfres o ffilmiau Rhith-wirionedd (VR) wedi cael eu cynhyrchu, a’r nod yw cludo gwylwyr yn ôl i ganrifoedd a lleoliadau y gorffennol o amgylch Dyffryn Dyfrdwy. Mae modd gweld y 360 ffilm yma.
Llangollen Heritage Digital Trail
The Our Picturesque Landscape Project has been working with Llangollen Museum to create a Digital Llangollen Heritage Trail for the North East Wales Digital Trails app. Within the project area this new digital trail helps you discover some of the hidden treasures of the fascinating town of Llangollen and sits alongside the existing digital trails at Corwen, Llangollen Railway, Cefn Mawr, Pontcysyllte and Chirk.
The app content is available in both Welsh and English and you can download the app for free from the App Store or Google Play, or by scanning the QR Code.
Perthnasol
Y Bws Darluniadwy
Our Picturesque Landscape
Gwasanaeth bws newydd yn Nyffryn Dyfrdwy i ddarparu mynediad at rai o gyrchfannau allweddol y dirwedd hardd a hanesyddol hon.
Ein Tirlun Darluniadwy
Ariennir Ein Tirlun Darluniadwy gan y National Lottery Heritage Fund