Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa
Mae’r llwybr 177 milltir epig hwn ar hyd ffin Cymru-Lloegr o Gas-Gwent i Brestatyn yn seiliedig ar gloddwaith yr 8fed ganrif a adeiladwyd gan Frenin Offa o Mersia.
Mae’n mwynhau tirluniau anhygoel o amgylch Llangollen a Sgarp Eglwyseg, yn croesi Mynydd Rhiwabon a Rhosydd Llandegla, yn dilyn y gadwyn anhygoel o Fryniau Clwyd ac yn gorffen ger Llechwedd Prestatyn ar lan y môr Prestatyn ar yr arfordir.
Mae’n daith tridiau gwych i ddal y trên i’r Waun a cherdded i Brestatyn yna dal y trên gartref.
Mae llawer o deithiau cylchol gwych yn defnyddio rhannau o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, felly mae’r wythïen wych yn cynnig o bosibl y ffordd orau i archwilio’r AHNE ar droed.
Hoffech chi gael gwybod mwy?
Ydy’n well mynd o’r de i’r gogledd neu o’r gogledd i’r de? Ydy o’n waith caled? Faint fydd yn ei gymryd i gerdded y llwybr cyfan?
YByddwch yn dod o hyd i atebion i’r cwestiynau hyn a mwy yn gwefan y Llwybrau Cenedlaethol